Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:19 - 10:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mick Antoniw (Cadeirydd) Llyr Huws Gruffydd Mark Isherwood Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Roberts (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.2 Fe wnaeth y Cadeirydd roi gwybod i’r Pwyllgor am ei gyfarfod diweddar gydag aelodau o Public Affairs Cymru.
2. Ystyried adroddiad drafft ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol
2.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
2.2 Nododd y Comisiynydd nad oedd diffygion mawr yn y system bresennol ond bod angen rhyw ddull o gofnodi gweithgarwch lobïo.
2.3Trafododd y Pwyllgor y dewisiadau posibl o ran cofrestru gwybodaeth am weithgarwch lobïo. Cytunodd y Pwyllgor ar un o’r dewisiadau a gynigiwyd ac ar welliannau i’r canllawiau drafft ar lobïo a hygyrchedd i Aelodau.
2.4 Ystyriodd yr Aelodau’r rheolau drafft ar gyfer gweithredu’r Grwpiau Trawsbleidiol.
2.5 Caiff yr adroddiad drafft ei ddiwygio i gynnwys sylwadau’r Aelodau cyn i’r Cadeirydd ei gyfeirio at y Llywydd.
3. Ystyried adroddiad ar y Cod Ymddygiad gan y Comisiynydd
3.1 Cyflwynodd y Comisiynydd ei nodyn briffio.
3.2 Ystyriodd y Pwyllgor ffurf y Cod Ymddygiad mewn deddfwrfeydd eraill a chytunodd ar ei hoff ffurf ar gyfer Cod Ymddygiad newydd y Cynulliad. Mae’n cynnwys pedair adran er mwyn cynnwys egwyddorion Nolan a nodi’r canlynol yn glir:- 1) ystod y methiannau i gydymffurfio sy’n bosibl; 2) y ddeddfwriaeth/Rheolau Sefydlog sy’n berthnasol; 3) unrhyw ganllawiau a gyflwynwyd; a 4) yr ystod o sancsiynau sydd ar gael yn wyneb methiant i gydymffurfio â nhw.
3.3 Rhoddodd y Pwyllgor ragor o ystyriaeth i fodel ar gyfer trefn sancsiynau diwygiedig. Cytunwyd y byddai’r sancsiynau yn cael eu diwygio fel mater o flaenoriaeth, ac y byddent yn cael eu cynnwys yn y Cod wrth lunio’r fersiwn derfynol. Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y Comisiynydd y dylai ef ymgynghori â holl Aelodau’r Cynulliad ar y drefn sancsiynau yr hoffai’r Pwyllgor ei gweld.
3.4 Caiff adroddiad ar ddiwygio’r drefn sancsiynau ei ddrafftio, yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad y Comisiynydd, i’w ystyried yn y cyfarfod nesaf ar 23 Ebrill.